Rhif y ddeiseb: P-06-1414

Teitl y ddeiseb: Paratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision

Geiriad y ddeiseb: Mae Cymru yn adnabyddus drwy’r byd fel “Gwlad y Gân”, ac mae gennym ddiwylliant cyfoethog o gerddoriaeth a pherfformio sy’n cael ei gydnabod a’i ddathlu yn rhyngwladol.        

Dylai Cymru gael y cyfle i gael ei chynrychioli yn yr Eurovision fel gwlad yn ei hun. Felly, galwn ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda S4C a chyrff perthnasol eraill i baratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision.

Y gofyniad er mwyn cystadlu yn yr Eurovision yw bod yn aelod gweithredol o’r Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU). Mae S4C eisoes yn aelod gweithredol o’r EBU. Mae Cymru eisoes wedi cymryd rhan yn Jeux Sans Frontières, Eurovision Choir a’r Junior Eurovision Song Contest.

 

 

 


1.        Cefndir

Trefnir yr Eurovision Song Contest bob blwyddyn gan yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU), ynghyd â darlledwr lletyol a thua 40 o ddarlledwyr sy'n cymryd rhan.

Goruchwylir y gystadleuaeth gan y Grŵp Cyfeirio ar ran y darlledwyr sy'n cymryd rhan a chynrychiolir pob darlledwr sy'n cymryd rhan gan bennaeth y ddirprwyaeth. Nid yw gwefan yr EBU yn cyfeirio at gyfranogiad y llywodraeth.

Mae gwefan Cystadleuaeth yr Eurovision yn egluro:

The Eurovision Song Contest is an internationally televised songwriting competition, organised by the European Broadcasting Union and featuring participants chosen by EBU member broadcasters representing their countries from across Europe and beyond.

Mae rhestr aelodaeth y EBU (yr Undeb Darlledu Ewropeaidd) ar gael ar wefan EBU. Yr aelodau o'r DU yw'r BBC, S4C, ITV a STV. Y BBC yw Darlledwr Cyfranogol y DU, ac felly y BBC sy’n cynnal y broses o ddewis cais y DU i'r gystadleuaeth.

Mae Cymru (drwy S4C) wedi cyflwyno ceisiadau i Jeux Sans Frontières a'r Junior Eurovision Song Contest (digwyddiadau EBU eraill) mewn blynyddoedd pan nad yw gwledydd eraill y DU wedi cystadlu. Cystadlodd Cymru yn Eurovision Choir (digwyddiad EBU arall) yn 2019, pan wnaeth yr Alban hefyd gystadlu o'r Deyrnas Unedig.  

2.     Camau gan y Senedd a Llywodraeth Cymru

Yn 2022 gwnaeth y Senedd drafod cynnig y Ceidwadwyr Cymreig:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi datganiad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd ar 17 Mehefin 2022.

2. Yn gresynu at y ffaith na ellir cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yn Wcráin oherwydd ymosodiad parhaus Rwsia.

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â'r BBC a'r Undeb Darlledu Ewropeaidd ynghylch cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023 yng Nghymru.

A gwelliant Plaid Cymru:

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i baratoi cais i Gymru gymryd rhan fel cenedl yn ei rhinwedd ei hun yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, gan hyrwyddo presenoldeb Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Wrth ymateb i Lywodraeth Cymru, dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd:

Pe byddai unrhyw gais gennym am y digwyddiad gwych hwn yn llwyddiannus, byddem yn llwyr anrhydeddu ymrwymiad yr Undeb Darlledu Ewropeaidd i sicrhau bod digwyddiad 2023 yn adlewyrchu buddugoliaeth Wcráin eleni, a byddai unrhyw gais yn gais ar ran y DU, oherwydd cystadleuaeth a gynhelir rhwng rhwydweithiau darlledu yw Eurovision, a daw'r ceisiadau'n gan brif ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus pob gwlad, ac i'r DU, y BBC yw'r rheini. Felly, byddai angen i'r BBC dynnu'n ôl o fod yn ddarlledwr Eurovision y DU cyn y gellid caniatáu i Gymru gystadlu yn ei hawl ei hun. Nid yw Llywodraeth ddatganoledig yn golygu y gallem gymryd rhan ar wahân.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.